Ystafelloedd

Ystafell Ganol
Yma yn ein hystafell ganol byddwn yn cael ‘Amser Cylch’, byddwn yn dawnsio, yn cael amser stori ac amser chwarae.

Byddwn yn tueddu i gael un ai amseroedd distaw neu amseroedd swnllyd yn y llyfrgell felly pan fyddwn yma mae’r plant un ai’n gollwng stêm neu’n cael sesiwn o ddysgu drwy drafodaeth.

Ystafell Fawr
Yma rydyn ni wedi ceisio ei chynllunio i gyd-fynd â’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer y plant hŷn. Byddwn yn ceisio canolbwyntio cymaint ag sydd bosib ar y Cyfnod Sylfaen ond mae’n rhaid i chi werthfawrogi, gan fod rhai o’r plant yma am ddeng awr neu fwy, fod arnyn nhw hefyd angen lot o amser distaw ac amser iddyn nhw’u hunain ar brydiau. Mae yna ardal sydd wedi’i charpedu ar un ochr lle bydd y plant yn chwarae. Mae gennym ni amser tywod a dŵr hefyd i blant eu fforio a’u mwynhau. Mae chwarae poitshlyd yn cynnwys paent, chwarae â chlai, chwarae hydrin, sesiynau glud, torri allan â siswrn a llawer mwy i blant ddarganfod eu gogwydd celfyddydol!

Byddwn hefyd yn ceisio pwysleisio dysgu drwy chwarae lle byddwn yn cael ein tywys gan eich plentyn yn eu dysgu ym mhob un o’r saith maes dysgu.

Ystafell Fabanod
Yma mae’r ystafell yn un fawr o gynllun agored gyda drysau’n arwain allan i’r ardal chwarae.
Yng nghanol yr ystafell mae gennym ni ardal fawr o chwarae meddal sy’n denu’r plant dro ar ôl tro i chwarae. Mae gan yr ystafell ardal ar gyfer babanod bychan iawn sydd ddim yn cerdded nac yn cropian eto ond sy’n gallu gweld y plant hŷn yn chwarae ar yr ochr arall.
Mae’r ystafell wedi’i rhannu’n ddwy adran gyda charped ar un ochr a gwrthslip ar yr ochr arall lle bydd y plant yn bwyta a lle byddwn yn cynnal ein chwarae poitshlyd.

Ystafell Sialc
Mae’r ystafell sialc â dwy wal sy’n fyrddau sialc. Yma bydd y plant yn ymarfer eu sgiliau ysgrifennu a thynnu llun. Hefyd yn yr ystafell sialc mae ein cornel ddarllen.

Ardal Dderbyn
Yma yn y drws ffrynt y bydd y staff yn eich cyfarch ar ddechrau ac ar ddiwedd pob sesiwn. Gofynnir i rieni arwyddo eu plentyn i mewn ac allan yn yr ardal yma. Dyma lle mae gennym ni deledu lle gall rhieni ac ymwelwyr weld lluniau o’u plant ar sgrin. Mae’r plant hŷn â’u pegiau cotiau a’u cardiau esgidiau yma.

Mae gwybodaeth yn cael ei harddangos ar waliau ac mae taflenni ar gael i chi fynd â nhw adref. Os hoffech arddangos gweithgaredd rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus iawn i wneud hynny ar eich rhan.

Ym mhob un o’r ardaloedd chwarae uchod nod y staff yw gwneud i’ch plentyn deimlo’n hapus, yn dawel ac iddyn nhw fwynhau eu chwarae bob amser. Drwy wneud hynny rydyn ni’n gobeithio creu plant sy’n hapus ac yn iach drwy eu chwarae.

 

Lluniau Diweddaraf

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld Meithrinfa Ogwen mewn map mwy

Cysylltu

Meithrinfa Ogwen Cyf.
3 Ffordd Carneddi
Bethesda
Gwynedd
LL57 3RU

Rhif Ffôn: 01248 605 555
Ffôn Symudol: 07824 340020
E-bost: post@meithrinfaogwen.co.uk