Bwydlenni

Rydyn ni wedi cyflawni Cyfraddiad Hylendid Bwyd o 5 am dair blynedd yn olynol ers dechrau’r cynllun.

Mae gennym fwydlen o dair wythnos sy’n cael ei choginio ar y safle’n ddyddiol gan ein cogydd sy’n gweithio pum bore’r wythnos. Mae ein cogydd â thystysgrifau mewn Hylendid Bwyd, Boliau Bach, Bwyd Iachach a Diet arbennig ac mae wedi bod yn gweithio yma ers 20……

Gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol a chynnig bwydlen lysieuol ar gais. Pryd bynnag y bydd hynny’n bosib byddwn yn cynnwys cyfran o ffrwythau neu lysiau â phob pryd a chynnwys pysgod ar y fwydlen o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae’r staff i gyd â Thystysgrifau Hylendid Bwyd ac fe fyddan nhw’n gweini’r byrbrydau prynhawn yn absenoldeb ein cogydd yn y prynhawn.

Mae dŵr ar gael yn rhwydd i’r plant gydol y dydd i’w cadw’n hydradol. Bydd y plant yn cael llefrith i’w yfed hefyd.

Ar hyn o bryd rydyn ni wedi cyflawni ein tystysgrifau ‘Cyfnod Cychwynnol’, ‘Maethiad ac Iechyd y Geg’ a ‘Hylendid’ drwy’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy sy’n cael ei redeg gan sawl prosiect yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Her Iechyd Cymru a Chynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Rydyn ni’n gobeithio cwblhau’r unedau eraill yn gynnar yn 2015.

Maen nhw’n cynnwys:
Gweithgarwch Corfforol/Chwarae Gweithredol
Iechyd Meddwl ac Emosiynol, Lles a Pherthnasau
Amgylchedd
Diogelwch
Iechyd a Lles yn y Gweithle

Mae gennym ni hefyd bolisïau yr hoffech eu gweld, efallai, sy’n ymwneud â Bwyd a Diod.
Y rhain ydi:
Bwyd
Hylendid Bwyd
Maethiad ac Iechyd y Geg
Staff y Gegin

Mae'r prydau yn cael eu coginio yn ffres ar y safle yn ddyddiol gan y cogydd.

Mae'r safle ar agor o 7.30y.b. – 6.00 y.h. Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Darperir dŵr neu lefrith amser prydau.

Gellir cael bwyd llysieuol os dymunir - gofynnwch am sgwrs gyda'r cogydd os yw eich plentyn yn llysieuwr.

Os oes gan eich plentyn alergedd yna siaradwch gyda'r Goruchwyliwr fu'n gallu trefnu i chi weld y cogydd er mwyn trafod y fwydlen.

Mae Tost/Brechdanau mewn amrywiaeth o fara brown, gwyn, bara gwenith cyflawn neu fara gronyn.

Gan ein bod yn rhan o’r Cynllun Iach a Chyn-ysgol sylwch y bydd yr holl ddiodydd fyddwn ni’n eu darparu ar gyfer eich plentyn yn ddŵr neu’n llefrith. Gall Ffrwythau a Llysiau amrywio oherwydd argaeledd a’r tymor.

Cliciwch yma i weld ein bwydlen (Saesneg yn unig ar gael)


 

Lluniau Diweddaraf

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld Meithrinfa Ogwen mewn map mwy

Cysylltu

Meithrinfa Ogwen Cyf.
3 Ffordd Carneddi
Bethesda
Gwynedd
LL57 3RU

Rhif Ffôn: 01248 605 555
Ffôn Symudol: 07824 340020
E-bost: post@meithrinfaogwen.co.uk