Gweler isod copi o’r prisiau newydd. Gan i’r costau byd fynd i fynu yn ogystal a chwyddiant mae’n ofynnoli ni godi ein prisiau.
Rydym wedi ceisio cadw y prisiau mor isel a phosib am cyn hired a phosib.Nodyn Atgoffa:
Mae’r plant sydd yn cael Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant Cymru yn cael gostyniad yn y pris.
Rydym yn gwerthfawrogi eich ffyddlondeb a gobeithir y medrwn gario ymlaen hefo y gofal a gwasanaeth uchaf posib.
Fe fydd y prisiau yn codi o Ddydd Llun 3ydd o Ebrill 2023
Ystafell Babis |
Plant dros 2 oed |
|
---|---|---|
7.30 a.m – 1 p.m / 1pm - 6pm |
£30.00 |
£29.00 |
7.30 a.m – 6 p.m |
£51.50 |
£50.00 |
Wythnos Llawn |
£235.00 |
£226.00 |
Cynnig Gofal Plant Cymru
Brecwast £1.50
Cinio £3
Te £1.50
Dechrau’n Deg
Gostyniad o £12.50 y sesiwn yn ystod tymor ysgol
Cymorth gyda taliadau
Yma ym Meithrinfa Ogwen Cyf rydym yn cymryd taliadau mewn gwahanol fformatau:
• Arian Parod
• ‘Chip and Pin’
• Talebau Gofal Plant
• Debyd Uniongyrchol i mewn i’n Cyfrif Banc
Bydd rhieni hefyd yn talu â dau ddull, er enghraifft, taleb gofal plant a ‘chip and pin’ i dalu’r balans.
Talebau Gofal Plant
Gallwch ddewis bod yn rhan o’r cynllun gofal plant os bydd eich cyflogwr wedi cytuno i gymryd rhan. Bydd angen i chi ofyn i’r Adran Bersonél a yw’r cynllun wedi ei sefydlu yn eich gweithle chi.
Gall rheini wneud cais i gymryd hyd at £55 yr wythnos (£243 y mis neu £220 os byddan nhw’n cael eu talu bob pedair wythnos) gyda Threth ac Yswiriant Gwladol yn eithriedig.
Bydd rhieni’n gwneud yr arbediad drwy ymgymryd â’r cytundeb Aberthu Cyflog efo’u cyflogwr. Bydd rhieni sy’n gweithio’n cyfnewid rhan o’u cyflog gros cyn didyniadau Treth ac Yswiriant Gwladol. Gall bod yn rhan o’r cynllun gynnig arbediad potensial i deuluoedd o hyd at £2392 y teulu, os yw’r ddau riant yn rhan o’r cynllun.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun gallwch dalu am ofal plant ar gyfer plant sydd dan 15 neu 16 os ydyn nhw’n anabl. Gallwch dalu am feithrinfeydd dydd, clybiau cyn ac wedi ysgol, cynlluniau gwyliau cyn belled â’u bod wedi eu cofrestru.
Credyd Treth
Gallwch gael help ychwanegol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy Gredyd Treth Gwaith - Help â chostau gofal plant WTC5.
Os oes arnoch chi angen help gan Gredyd Treth Gwaith ewch i:
www.hmrc.gov.uk/taxcredits neu
ffoniwch eu Llinell Gymorth ar 0845 300 3900
Tax Free Child Care
Darllenwch mwy- Gov.uk