Meithrinfa Ddydd Breifat yw Meithrinfa Ogwen Cyf ac fe’i hagorwyd yn Ebrill 2001 ar gyfer plant o 3mis i 8 mlwydd oed a Mrs Delyth Jones sy’n ei rhedeg. Rydyn ni wedi’n trwyddedu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gymryd hyd at 41 o blant ar unrhyw amser penodol.
Cyn i ni gael ein trawsnewid a’n hagoriad yn Ebrill 2001 hen swyddfa a chompownd Jones and Whitehad Electrical Contractors oedd yr adeilad. Fe symudon nhw allan i’w safle newydd yn Nhregarth ac fe ddechreuodd gwaith ar yr adeilad presennol yn Ionawr 2001.
Mae’r adeilad wedi ei adeiladu i’r pwrpas ac mae’n eang, yn fodern ac wedi’i ddylunio ar gyfer diogelwch plant gyda lefelau uchel o ran diogelwch a chyfforddusrwydd. Mae nodweddion yn cynnwys lloriau gwrthlithro a lloriau diogelwch yn yr ardal chwarae yn ogystal â CCTV a drws sydd â chod mynediad. Rydyn ni wedi ein cofrestru ar gyfer 41 o fechgyn a merched ac mae’r sefydliad yn un dwyieithog. Ein polisi yw bod staff, plant ac ymwelwyr yn gwisgo slipers y tu mewn i’r adeilad felly cynghorir eu gwisgo. Mae hynny i sicrhau, pan fydd plant a staff yn chwarae ar y llawr, ein bod ni’n saff o wybod fod y carped yn lân o unrhyw esgidiau a wisgir y tu allan a’i fod yn blant-gyfeillgar i chwarae arno.
Mae ein hadeilad yn cynnwys:
Ardal Dderbyn
Ystafell Sialc
Llyfrgell
Ystafell Plant Bach
Ystafell Fabanod
Mae gennym ni hefyd ddwy ardal i newid clytiau ar gyfer pob grŵp oedran.
Mae Meithrinfa Ogwen Cyf ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 7.30 a.m. tan 6.00 p.m. Mae’r sesiwn fore o 7.30 a.m. tan 1.00 p.m. a sesiwn y prynhawn o 1.00 p.m. tan 6.00 p.m. Rydyn ni ar agor gydol y flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.